Ymateb y Llywodraeth: Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023
Pwynt Craffu Technegol 1: Nodir y pwynt. Byddwn yn sicrhau bod y Gorchymyn yn cael ei ddiwygio cyn ei wneud fel y nodir yn y tabl isod.
Pwynt Craffu Technegol 2: Nodir y pwynt. Fodd bynnag, rydym yn fodlon bod y cyfieithiad yn briodol ac nad oes angen ei ddiwygio.
Pwynt Craffu Technegol 3: Nodir y pwynt. Byddwn yn sicrhau bod y Gorchymyn yn cael ei ddiwygio cyn ei wneud fel y nodir yn y tabl isod.
Pwynt Craffu Technegol 4: Nodir y pwynt. Fodd bynnag, rydym yn fodlon mai’r gair “bennu” yw’r cyfieithiad cywir o “determining” ac “establishing”. Nid ydym o’r farn bod angen “gadarnhau”.
Cywiriadau drafftio technegol i’w gwneud cyn i’r Gorchymyn gael ei wneud
CYWIRIADAU A WNEIR I’R TESTUN CYMRAEG CYN GWNEUD |
CYWIRIADAU A WNEIR I’R TESTUN SAESNEG CYN GWNEUD |
Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023 |
The Prohibition on Disposal of Food Waste to Sewer (Civil Sanctions) (Wales) Order 2023 |
Yn erthygl 3, bydd “34D” yn cael ei ddisodli gan “34D(3)”. |
Yn erthygl 3, bydd “34D” yn cael ei ddisodli gan “34D(3)”. |
Yn yr Atodlen, ym mharagraffau 25(2) a (3) bydd “ym mharagraff” yn cael ei ddisodli gan “yn is-baragraff”. Yn yr Atodlen, ym mharagraff 28(2) bydd “Ym mharagraff” yn cael ei ddisodli gan “Yn is-baragraff”. |
Yn yr Atodlen, ym mharagraffau 25(2) a (3) ac 28(2) bydd “paragraph” yn cael ei ddisodli gan “sub-paragraph”. |
Bydd mân faterion fel fformatio, mân newidiadau i’r nodyn esboniadol a'r troednodiadau a chywiro gwallau teipograffyddol hefyd yn cael eu cywiro cyn gwneud |